Prosiect Chwarae RAY

Mae RAY Ceredigion wedi lawnsio prosiect newydd cyffrous yn seiliedig ar y thema o CHWARAE ac mae’n agored i bob oedran!

Prosiect Chwarae RAY

Rydym eisiau darganfod sut mae plant yn chwarae heddiw, sut oedd oedolion yn chwarae pan yn blant a beth sy’n aros yr un peth?

Beth yw Prosiect Chwarae RAY?

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ‘Mae Gorllewin Cymru yn Garedig’ (West Wales is Kind) sy’n cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru fel rhan o ‘Orllewin Cymru Iachach’ i gefnogi prosiectau rhanbarthol rhwng cenedlaethau sy’n:

  • Gwella cysylltedd cymdeithasol
  • Lleihau unigrwydd cymdeithasol
  • Cefnogi pobl hen ac ifanc i ddysgu oddiwrth eu gilydd
  • Mwyafu’r potensial a’r defnydd o dechnolegau digidol

Sut rwyf yn cymryd rhan?

Rydym eisiau clywed gennych am eich profiadau ac atgofion o chwarae!

  • Rhannwch eich lluniau a’ch gwaith celf! Efallai eich bod wedi dal rhai eiliadau da o’ch plentyn yn chwarae ei hoff gêm? Neu efallai y byddwch yn hoffi tynnu llun i ni ar y thema o chwarae? Byddem yn hoffi eu gweld! Ymunwch â’n grwp preifat ‘Facebook‘ ble fedrwch postio a rhannu. Neu medrwch eu ebostio i Steph -ein Cydlynydd Prosiect: [email protected]
  • Cysylltwch â’n Cydlynydd Prosiect, Steph Glover i sgwrsio am eich profiadau a’ch atgofion o chwarae. Ffôn: 07707 040 658. E-bost: [email protected]
  • Cymerwch ran yn ein Holiadur Chwarae ar-lein! Pwrpas y prosiect yw i gael pobl o bob oedran i rannu eu profiadau am chwarae. Mae gennym un ar gyfer oedolion ac un i blant, felly pam na wnewch chi lenwi’r ddau gyda’ch gilydd? Efallai hyd yn oed fe wnech chi ddysgu rhywbeth newydd am eich gilydd!

Rydym nawr yn cynnig postio copiau papur o’n Holiaduron Prosiect Chwarae RAY er mwyn i chi gael cymeryd rhan! Yn ogystal â’n holiadur ar-lein ynglyn â chwarae, medrwch hefyd wneud cais am fersiwn papur. Danfonwch eich cyfeiriad i Steph: [email protected] ac fe wnawn ddanfon un yn y post i chi ynghyd ag amlen gyda stamp a chyfeiraid arni i’w ddanfon yn ôl.

Beth fydd yn digwydd i gasgliadau’r ymchwil?

Gyda help arlunydd cymunedol lleol a’r amrywiol grwpiau sy’n ynghlwm â’r prosiect, bydd yr holl waith celf, lluniau, atgofion a phrofiadau yn cyfrannu at gynllun mosäig yn yr awyr agored a arddangosir yn Aberaeron.

Cliciwch ar y poster i’w chwyddo