


Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o RAY Ceredigion, os oes gennych unrhyw amser sbâr mae RAY Ceredigion yn croesawu gwirfoddolwyr o bob oed a gallu i helpu naill ai’n rheolaidd neu’n achlysurol.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth i’ch cymuned, ennill sgiliau, cymdeithasu, a gwella eich CV ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl.
Mae gennym ystod eang o weithgareddau y gallwch eu gwirfoddoli:
RAY DYMA NI a Chlwb Cymdeithasol RAY | Cefnogwch Staff RAY gyda gweithgareddau wythnosol ar gyfer oedolion ifanc gydag anableddau oed 17 – 30, gan gynnwys garddio, pobi, gwaith coed, celf a mwy a/neu cefnogwch Clwb Cymdeithasol RAY ar nôs Wener | Dyma Ni:- Yn wythnosol 10yb – 2yh ar Ddydd Mawrth a Dydd Iau. Chlwb Cymdeithasol:- Yn fisol Dydd Gwener 6yh – 9yh |
Canolfan Deulu RAY | Cefnogwch Staff RAY i ddarparu sesiynau galw mewn, chwarae brwnt, canu, coginio, chwarae awyr agored i deuluoedd, babanod a phlant cyn oed ysgol | Sesiynau wythnosol yn ystod y dydd |
Sesiynau Chwarae Mynediad Agored RAY i’r Gymuned Awyr Agored | Cefnogwch ein tîm o weithwyr chwarae i ddarapru chwarae awyr agored yng nghymunedau gan gynnwys Aberteifi, Llandysul, Llambed a Phenparcau | Gwyliau ysgol |
Clwb Ieuenctid Actif RAY | Yn cefnogi ein tîm gwaith ieuenctid RAY i drosglwyddo sesiynau wythnosol ar ôl ysgol, ar benwythnosau a gwyliau ysgol. Mae gennym grwpiau ar gyfer amrediad oed cynradd ac uwchradd | Ar ôl ysgol Dydd Llun, Dydd Mawth, i Ddydd Mercher amser tymor. Dydd Llun i Ddydd Iau yng ngwyliau ysgol |
Grŵp cefnogi dementia Cwlwm Cof RAY | Dewch draw i gefnogi ein Cydlynydd gyda’r grŵp yma ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr | Yn wythnosol ar Ddydd Gwener yn dechrau am 10.30 |
Gardd Bywyd Gwyllt RAY | Dewch draw i’n helpu i ddatblygu ein gardd bywyd gwyllt | Yn dechrau Haf 2021 |
Caffi Trwsio RAY | Rydym yn edrych am wirfoddolwyr gyda sgiliau thrwsio ar gyfer eitemau trydanol, gwaith coed, sgiliau gwinio a mwy i fynychu caffi trwsio wythnosol, yn ogystal â rhywun sy’n medru gwneud Prawf ‘PAT’ a gwirfoddolwr sy’n fodlon i helpu drefnu’r sesiynau wythnosol | Dydd Iau cyntaf y mis 11yb-2yh. |
Swyddfa RAY a Gweinyddol | Croesawir cefnogaeth gwirfoddoli yn ein swyddfa gyfeillgar | Dydd Llun i Ddydd Gwener oriau swyddfa |
I wirfoddoli bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn mynd â chi drwy’r broses sefydlu ac yn eich cefnogi yn eich profiad gwirfoddoli.
Mae RAY Ceredigion yn cynnig hyfforddiant a thystysgrifau perthnasol ar gyfer oriau gwirfoddoli.
Bydd RAY Ceredigion yn cwblhau Gwasanaeth Datgelu a Baru (DBS) os yw’n berthnasol.
Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni i gael gwybod mwy ar 01545 570 686 neu 07500802590, e-bostiwch ein Cydlynydd Gwirfoddoli ar rayvolunteering@rayceredigion.org.uk
‘Dechreuais gyda RAY fel lleoliad gwirfoddoli drwy Gweithffyrdd. Rhoddodd RAY yr opsiwn i mi ddewis pa weithgareddau yr oeddwn am eu cefnogi a dewisais y bobl ifanc yn eu harddegau. Dechreuais helpu gyda’r ray Actif yn 2019 a nawr llai na 3 blynedd yn ddiweddarach rwy’n aelod o staff. Trwy RAY rwyf wedi cymhwyso i Lefelau 2 a 3 mewn Gwaith Ieuenctid, wedi ennill Gwobr mewn Addysg a Hyfforddiant fel y gallaf ddarparu dysgu achrededig i bobl ifanc, ac rwyf ar fin dechrau’r cwrs Pontio mewn Gwaith Chwarae Lefel 3 i gefnogi fy hyfforddiant gwaith chwarae presennol pan fyddaf yn gweithio gyda’r grwpiau oedran iau. Dechreuwch wirfoddoli heddiw, dydych chi byth yn gwybod ble y gallai arwain!‘
Nikki Hunter Arweinydd Ieuenctid RAY Actif