Gwaith Chwarae

A ydych yn mwynhau chwarae? Yna dewch draw i un o’n cyrsiau gwaith chwarae. Mae chwarae yn rhan bwysig o ddatblygiad dynol, ac mae ein cyrsiau yn ddelfrydol ar gyfer rhieni, staff gofal plant neu unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl o chwarae ym mywydau plant. Mae ein cyrsiau yn anffurfiol, llawer o hwyl gyda digon o weithgareddau ymarferol a sgwrsio, ac yn achrededig gan Agored Cymru.

Mae ein cyrsiau Gwaith Chwarae yn cynnwys:

  • Lefel 1 Gwaith Chwarae
  • Lefel 2 Dyfarniad mewn Ymarfer Gwaith Chwarae
  • Lefel 3 Rheoli Cynllun Chwarae Amser Gwyliau