Amddiffyn a Diogelu Plant

A oes angen cwrs achrededig mewn Amddiffyn a Diogelu Plant arnoch chi neu eich staff? Gall RAY gyflwyno cwrs Sefydlu Lefel 2 ar Ddiogelu yng Ngofal Cymdeithasol yng Nghymru – cwrs Lefel 2 achrededig Agored Cymru wedi ei ddatblygu gan Gyngor Gofal Cymru, CGGC a gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Mae’r cwrs yn adlewyrchu polisi agenda Cymru a’r cyd-destun ymarferol, ac mae’n hyrwyddo ymarfer diogelu cymeradwyol yn ganolog i’r person, ac yn hyrwyddo’r neges fod diogelu yn fusnes i bawb. Mae mynychu gydag aelodau eraill o’ch sefydliad yn rhoi cyfle gwych i chi adolygu eich agwedd at ddiogelu ac yn sicrhau fod eich polisïau a gweithdrefnau yn addas.

Gellir trefnu cyrsiau mewn lle ac amser sy’n addas i sefydliadau – y gost yn ddibynnol ar leoliad y cwrs a’r rhif sy’n mynychu.